17 a dweud, “Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.
18 Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.
19 Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.
20 Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.
21 Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.
22 Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.
23 Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.