9 Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.
10 Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.
11 Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;
12 ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
13 Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
14 Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
15 Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!”