13 Atebodd yntau, “Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod â thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod â Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld.”
14 Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, “Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid.”
15 Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais.
16 Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, “Dos yn d'ôl”, fe ddychwelodd adref.
17 Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, “Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.
18 Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, ‘Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.’ ”
19 Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.