24 Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith?
25 Yr wyt yn adnabod Abner fab Ner; i'th dwyllo di y daeth, ac i gael gwybod dy holl symudiadau a phopeth yr wyt yn ei wneud.”
26 Pan aeth Joab allan oddi wrth Ddafydd, anfonodd negeswyr ar ôl Abner, a daethant ag ef yn ôl o ffynnon Sira heb yn wybod i Ddafydd.
27 Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.
28 Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, “Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglŷn â gwaed Abner fab Ner;
29 bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!”
30 Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.