6 Tra oedd rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd, yr oedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad gyda theulu Saul.
7 Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, “Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?”
8 fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, “Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bûm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.
9 Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo,
10 a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba.”
11 Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.
12 Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, “Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod â mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat.”