16 Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon.
17 Daethant ag arch yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac offrymodd Dafydd boethoffrymau a heddoffrymau o flaen yr ARGLWYDD.
18 Wedi iddo orffen offrymu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y Lluoedd;
19 yna rhannodd fwyd i bawb, torth o fara, darn o gig, a swp o rawnwin i bob gŵr a gwraig o holl dyrfa Israel. Yna aeth pawb adref.
20 Pan ddaeth Dafydd yn ôl i gyfarch ei deulu, daeth Michal merch Saul i'w gyfarfod a dweud, “O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn ei ddinoethi ei hun yng ngolwg morynion ei ddilynwyr, fel rhyw hurtyn yn dangos popeth!”
21 Ond meddai Dafydd wrthi, “Yr oedd hyn o flaen yr ARGLWYDD, a'm dewisodd i yn hytrach na'th dad na'r un o'i deulu, a gorchymyn imi fod yn arweinydd i Israel, pobl yr ARGLWYDD; yr wyf am ddangos llawenydd o flaen yr ARGLWYDD.
22 Ie, gwnaf fy hun yn fwy dirmygus, ac yn is na hyn yn dy olwg; ond am y morynion hynny y soniaist amdanynt, byddaf yn anrhydeddus ganddynt hwy.”