6 Pan ddaethant at lawr dyrnu Nachon, estynnodd Ussa ei law at arch Duw a gafael ynddi, am fod yr ychen yn ei hysgwyd.
7 Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, trawodd Duw ef am yr amarch, a bu farw yno wrth arch Duw.
8 Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.
9 Yr oedd ofn yr ARGLWYDD ar Ddafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd, “Sut y deuai arch yr ARGLWYDD ataf fi?”
10 Ni fynnai Dafydd symud arch yr ARGLWYDD ato i Ddinas Dafydd, ac fe'i trodd i dŷ Obed-edom o Gath.
11 Arhosodd arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom o Gath am dri mis, a bendithiodd yr ARGLWYDD Obed-edom a'i deulu i gyd.
12 Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o dŷ Obed-edom i Ddinas Dafydd.