9 Yr oedd ofn yr ARGLWYDD ar Ddafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd, “Sut y deuai arch yr ARGLWYDD ataf fi?”
10 Ni fynnai Dafydd symud arch yr ARGLWYDD ato i Ddinas Dafydd, ac fe'i trodd i dŷ Obed-edom o Gath.
11 Arhosodd arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom o Gath am dri mis, a bendithiodd yr ARGLWYDD Obed-edom a'i deulu i gyd.
12 Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o dŷ Obed-edom i Ddinas Dafydd.
13 Pan oedd cludwyr arch yr ARGLWYDD wedi cerdded chwe cham, aberthodd Dafydd ych ac anifail pasgedig.
14 Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD,
15 wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng arch yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn.