1 Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w dŷ ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch,
2 dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, “Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tŷ o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell.”
3 Ac meddai Nathan wrth y brenin, “Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi.”
4 Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud,
5 “Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo?
6 Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl.
7 Ple bynnag y bûm yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’