16 Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”
17 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.
18 Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?
19 Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW.
20 Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW?
21 Oherwydd dy addewid, ac yn ôl dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was.
22 Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.