22 Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.
23 A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft.
24 Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
25 Yn awr, O ARGLWYDD Dduw, cadarnha hyd byth yr addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu, a gwna fel y dywedaist.
26 Yna, fe fawrheir dy enw hyd byth, a dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.
27 Am i ti, ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ddatgelu hyn i'th was a dweud, ‘Adeiladaf i ti dŷ’, fe fentrodd dy was weddïo fel hyn arnat.
28 Yn awr, O Arglwydd DDUW, ti sydd Dduw; y mae d'eiriau di yn wir, ac fe addewaist y daioni hwn i'th was.