1 Meddyliodd Dafydd, “Tybed a oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?”
2 Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ai Siba wyt ti?” Atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.”
3 Yna gofynnodd y brenin, “A oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?” Atebodd Siba, “Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed.”
4 Gofynnodd y brenin, “Ple mae ef?” A dywedodd Siba, “Y mae yn Lo-debar, yng nghartref Machir fab Ammiel.”
5 Anfonodd y Brenin Dafydd a'i gyrchu o Lo-debar, o gartref Machir fab Ammiel.
6 Pan gyrhaeddodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul, syrthiodd ar ei wyneb o flaen Dafydd ac ymgreinio; gofynnodd Dafydd, “Meffiboseth?” ac atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.”
7 Dywedodd Dafydd wrtho, “Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd â thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n ôl i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.”