1 Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.
2 Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”
3 Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.
4 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,
5 a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”