1 Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.
2 Cymerwch eiriau gyda chwi,a dychwelwch at yr ARGLWYDD;dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.
3 Ni all Asyria ein hachub,ac ni farchogwn ar geffylau;ac wrth waith ein dwyloni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”
4 “Iachâf eu hanffyddlondeb;fe'u caraf o'm bodd,oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.
5 Byddaf fel gwlith i Israel;blodeua fel lilia lleda'i wraidd fel pren poplys.
6 Lleda'i flagur,a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden,a'i arogl fel Lebanon.
7 Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod;cynhyrchant ŷd,ffrwythant fel y winwydden,bydd eu harogl fel gwin Lebanon.
8 “Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod?Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir.Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog;oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.”
9 Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn;pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded.Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir;rhodia'r cyfiawn ynddynt,ond meglir y drygionus ynddynt.