1 “At dy wefus â'r utgorn!Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tŷ'r ARGLWYDD,am iddynt dorri fy nghyfamoda gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
2 Llefant arnaf, ‘O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.’
3 Ffieiddiodd Israel ddaioni;bydd gelyn yn ei ymlid yntau.
4 “Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi;gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod.Â'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau,a hynny er distryw.
5 Ffieiddiais dy lo, Samaria;cyneuodd fy llid yn ei erbyn.
6 Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel?Crefftwr a'i gwnaeth;nid yw'n dduw.Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.
7 “Canys y maent yn hau gwynt,ac yn medi corwynt.Y mae'r corsennau ŷd heb rawn,ni rônt flawd;pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.
8 Llyncwyd Israel;y mae eisoes ymysg y cenhedloeddfel llestr diwerth.
9 Aethant i fyny at Asyria,fel asyn gwyllt ar ddisberod.Bargeiniodd Effraim am gariadon;
10 er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd,fe'u casglaf yn awr,wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.
11 “Amlhaodd Effraim allorau;ond aethant iddo yn allorau i bechu.
12 Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau,fe'u hystyrir fel peth dieithr.
13 Carant aberthau;aberthant gig a'i fwyta;ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt.Yn awr fe gofia eu drygioni,a chosbi eu pechodau;dychwelant i'r Aifft.
14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,ac adeiladodd balasau;lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog;ond anfonaf dân ar ei ddinasoeddac fe ysa ei amddiffynfeydd.”