1 “Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD;fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ;fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha.
2 Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.
3 Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”
4 “Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda?Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar.
5 Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi,fe'u lleddais â geiriau fy ngenau,a daw fy marn allan fel goleuni.
6 Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth,gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.
7 Yn Adma torasant gyfamod,yno buont dwyllodrus tuag ataf.
8 Dinas rhai ofer yw Gilead,wedi ei thrybaeddu â gwaed.
9 Fel y bydd lladron yn disgwyl am rywun,felly'r ymunodd yr offeiriaid yn fintai;byddant yn lladd ar y ffordd i Sichem,yn wir, yn gwneud anfadwaith.
10 Yng nghysegr Israel gwelais beth erchyll;yno y mae puteindra Effraim, ac yr halogodd Israel ei hun.
11 I tithau hefyd, Jwda, paratowyd cynhaeaf.”