1 Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;amlhânt dwyll a thrais;gwnânt gytundeb ag Asyria,a dygant olew i'r Aifft.
2 Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.
3 Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.
4 Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;wylodd a cheisiodd ei ffafr.Ym Methel y cafodd ef,a siarad yno ag ef—
5 ARGLWYDD Dduw y lluoedd,yr ARGLWYDD yw ei enw.
6 A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,cadw deyrngarwch a barn,a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrusyn caru gorthrymu.
8 Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,ac enillais olud;yn fy holl enillion ni cheirna drygioni na phechod.”
9 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.
10 “Lleferais wrth y proffwydi;ac amlheais weledigaethaua dangos gwers trwy'r proffwydi.
11 Am fod eilunod yn Gilead,pethau cwbl ddiddim;am fod aberthu teirw yn Gilgal,bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrigar rychau'r meysydd.”
12 Ffodd Jacob i dir Aram;gwasanaethodd Israel am wraig;am wraig y cadwodd ddefaid.
13 Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,a thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14 Cythruddodd Effraim ef yn chwerw,a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd,a throi ei waradwydd yn ôl arno.