Hosea 13 BCN

Barn Derfynol ar Israel

1 Pan lefarai Effraim byddai dychryn;yr oedd yn ddyrchafedig yn Israel;ond pan bechodd gyda Baal, bu farw.

2 Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg;gwnânt iddynt eu hunain ddelw dawdd,eilunod cywrain o arian,y cyfan yn waith crefftwyr.“Aberthwch i'r rhai hyn,” meddant.Pobl yn cusanu lloi!

3 Felly byddant fel tarth y bore,ac fel gwlith yn codi'n gyflym,fel us yn chwyrlïo o'r llawr dyrnu,ac fel mwg trwy hollt.

4 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;nid adwaenit Dduw heblaw myfi,ac nid oedd achubydd ond myfi.

5 Gofelais amdanat yn yr anialwch,yn nhir sychder.

6 Dan fy ngofal cawsant ddigon;fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon;felly yr anghofiwyd fi.

7 Minnau, byddaf fel llew iddynt;llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.

8 Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon,rhwygaf gnawd eu mynwes,ac yno traflyncaf hwy fel llew,fel y llarpia anifail gwyllt hwy.

9 “Pan ddinistriaf di, O Israel,pwy fydd dy gynorthwywr?

10 Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd,a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt,‘Dyro inni frenin a thywysogion’?

11 Rhoddais iti frenin yn fy nig,ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.

12 Rhwymwyd drygioni Effraim,a storiwyd ei bechod.

13 Pan ddaw poenau esgor,am mai plentyn anghall ydyw,ni esyd ei hun yn yr amserym man yr esgor.

14 “A waredaf hwy o afael Sheol?A achubaf hwy rhag angau?O angau, ble mae dy blâu?O Sheol, ble mae dy ddinistr?Cuddiwyd trugaredd oddi wrth fy llygaid.

15 “Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr,ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD,yn codi o'r anialwch;â ei ffynnon yn hesb,a sychir ei bydew;dinoetha ei drysordyo'i holl ddarnau gwerthfawr.

16 Bydd Samaria yn euog,am iddi wrthryfela yn erbyn ei Duw;syrthiant wrth y cleddyf,dryllir eu rhai bychain yn chwilfriw,a rhwygir eu rhai beichiog yn agored.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14