1 “Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.
2 Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,y maent yn awr ger fy mron.
3 Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,a'r tywysogion â'u celwyddau.
4 Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.
5 Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.
6 Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.
7 Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”
8 “Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;y mae Effraim fel teisen heb ei throi.
9 Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.
10 Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.
11 “Y mae Effraim fel colomen,yn ffôl a diddeall;galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.
12 Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.
13 Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.
14 “Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.
15 Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.
16 Trônt yn ôl heb lwyddo; y maent fel bwa twyllodrus;syrth eu penaethiaid â'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau.Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.”