1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos eto, câr wraig a gerir gan arall ac sy'n odinebwraig, fel y câr yr ARGLWYDD blant Israel er iddynt droi at dduwiau eraill a hoffi teisennau grawnwin.”
2 Felly, fe'i prynais am bymtheg darn arian, a homer a hanner o haidd.
3 Dywedais wrthi, “Aros amdanaf am ddyddiau lawer, heb buteinio na'th roi dy hun i neb; felly y gwnaf finnau i ti.”
4 Oherwydd am ddyddiau lawer yr erys plant Israel heb frenin na thywysog, heb offrwm na cholofn, heb effod na theraffim.
5 Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.