Hosea 4 BCN

Cyhuddiadau'r ARGLWYDD

1 Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel.Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir,am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,

2 ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.

3 Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;dygir ymaith anifeiliaid y maes,adar yr awyr hefyd a physgod y môr.

4 “Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.

5 Yr wyt yn baglu liw dydd,a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.Dinistriaf dy fam;

6 difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.

7 “Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;trof eu gogoniant yn warth.

8 Bwytânt bechod fy mhobl,ac estyn eu safn at eu drygioni.

9 Bydd y bobl fel yr offeiriad;fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.

10 Bwytânt, ond heb eu digoni,puteiniant, ond heb amlhau,am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.

11 “Y mae puteindra, gwin a gwin newyddyn dwyn ymaith y deall.

12 Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo;oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd,troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.

13 Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd,ac yn offrymu ar y bryniau,o dan y dderwen, y boplysen a'r terebintham fod eu cysgod yn dda.“Am hynny, y mae eich merched yn puteinioa'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.

14 Ni chosbaf eich merched pan buteiniant,na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant,oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaidac yn aberthu gyda phuteiniaid y cysegr.Pobl heb ddeall, fe'u difethir.

15 “Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog.Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen,a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’

16 Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin;a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?

17 “Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.

18 Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra!Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth.

19 Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd,a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14