2 Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”
3 Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.
4 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,
5 a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”
6 Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt.
7 Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”
8 Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.