1 Gwinwydden doreithiog oedd Israel,a'i ffrwyth yr un fath â hi.Fel yr amlhaodd ei ffrwyth,amlhaodd yntau allorau;fel y daeth ei dir yn well,gwnaeth yntau ei golofnau yn well.
2 Aeth eu calon yn ffals,ac yn awr y maent yn euog.Dryllia ef eu hallorau,a difetha'u colofnau.
3 Yn awr y maent yn dweud,“Nid oes inni frenin,am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD,a pha beth a wnâi brenin i ni?”
4 Llefaru geiriau y maent,a gwneud cyfamod â llwon ffals.Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllydyn rhychau'r maes.
5 Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen.Y mae ei bobl yn galaru amdano,a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano,am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.
6 Fe'i dygir ef i Asyria,yn anrheg i frenin mawr.Gwneir Effraim yn wartha chywilyddia Israel oherwydd ei eilun.