2 Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf;aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.
3 “Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,a'u cymryd erbyn eu breichiau;ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.
4 Tywysais hwy â rheffynnau caredigac â rhwymau cariad;bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn,ac yn plygu atynt i'w porthi.
5 “Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,ond Asyria fydd yn frenin arnynt,am iddynt wrthod dychwelyd ataf.
6 Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,a difa byst eu pyrtha'u difetha am eu cynllwynion.
7 Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;er iddynt alw ar dduw goruchel,ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.
8 “Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,a'th roi ymaith, Israel?Pa fodd y'th wnaf fel Adma,a'th osod fel Seboim?Newidiodd fy meddwl ynof;enynnodd fy nhosturi hefyd.