3 Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.
4 Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;wylodd a cheisiodd ei ffafr.Ym Methel y cafodd ef,a siarad yno ag ef—
5 ARGLWYDD Dduw y lluoedd,yr ARGLWYDD yw ei enw.
6 A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,cadw deyrngarwch a barn,a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrusyn caru gorthrymu.
8 Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,ac enillais olud;yn fy holl enillion ni cheirna drygioni na phechod.”
9 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.