9 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.
10 “Lleferais wrth y proffwydi;ac amlheais weledigaethaua dangos gwers trwy'r proffwydi.
11 Am fod eilunod yn Gilead,pethau cwbl ddiddim;am fod aberthu teirw yn Gilgal,bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrigar rychau'r meysydd.”
12 Ffodd Jacob i dir Aram;gwasanaethodd Israel am wraig;am wraig y cadwodd ddefaid.
13 Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,a thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14 Cythruddodd Effraim ef yn chwerw,a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd,a throi ei waradwydd yn ôl arno.