1 “Dywedwch wrth eich brodyr, ‘Fy-mhobl’,ac wrth eich chwiorydd, ‘Cafodd-drugaredd’.
2 Plediwch â'ch mam, plediwch—onid yw'n wraig i mi,a minnau'n ŵr iddi hi?—ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.
3 Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,a'i lladd â syched;
4 ni wnaf drugaredd â'i phlant,am eu bod yn blant puteindra.