11 Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.
12 Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.
13 Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.
14 “Am hynny, wele, fe'i denaf;af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.
15 Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”
16 “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’;
17 symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau.