3 Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,a'i lladd â syched;
4 ni wnaf drugaredd â'i phlant,am eu bod yn blant puteindra.
5 Oherwydd i'w mam buteinio,ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—
6 am hynny, caeaf ei ffordd â drain,a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.
7 Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,fe'u cais heb eu cael;yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’
8 Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.
9 Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.