7 Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,fe'u cais heb eu cael;yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’
8 Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.
9 Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.
10 Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.
11 Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.
12 Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.
13 Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.