15 “Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog.Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen,a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’
16 Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin;a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?
17 “Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.
18 Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra!Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth.
19 Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd,a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”