2 ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.
3 Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;dygir ymaith anifeiliaid y maes,adar yr awyr hefyd a physgod y môr.
4 “Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.
5 Yr wyt yn baglu liw dydd,a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.Dinistriaf dy fam;
6 difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.
7 “Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;trof eu gogoniant yn warth.
8 Bwytânt bechod fy mhobl,ac estyn eu safn at eu drygioni.