6 difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.
7 “Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;trof eu gogoniant yn warth.
8 Bwytânt bechod fy mhobl,ac estyn eu safn at eu drygioni.
9 Bydd y bobl fel yr offeiriad;fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.
10 Bwytânt, ond heb eu digoni,puteiniant, ond heb amlhau,am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.
11 “Y mae puteindra, gwin a gwin newyddyn dwyn ymaith y deall.
12 Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo;oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd,troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.