1 “Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
2 gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
3 “Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
4 Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”
5 Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6 Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.
7 Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.