9 Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10 Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11 Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.
12 Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,ac fel cancr i dŷ Jwda.
13 “Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.
14 Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
15 “Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”