8 Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.
9 Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,fel yn nyddiau Gibea.Fe gofia Duw eu drygionia chosbi eu pechodau.
10 “Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.Ond aethant i Baal-peor,a'u rhoi eu hunain i warth eilun;ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.
11 Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.
12 Pe magent blant,fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!
13 Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”
14 Dyro iddynt, ARGLWYDD—beth a roddi?Dyro iddynt groth yn erthylu,a bronnau hysbion.