35 nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,a difa holl gynnyrch y ddaear.
36 A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,blaenffrwyth eu holl nerth.
37 Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.
38 Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.
39 Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,a thân i oleuo iddynt yn y nos.
40 Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,a digonodd hwy â bara'r nefoedd.
41 Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.