1 Arglwydd, buost yn amddiffynfa i niymhob cenhedlaeth.
2 Cyn geni'r mynyddoedd,a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3 Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch,ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.”
4 Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwgfel doe sydd wedi mynd heibio,ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5 Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—
6 yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7 Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8 Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9 Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10 Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11 Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12 Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,inni gael calon ddoeth.
13 Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd?Trugarha wrth dy weision.
14 Digona ni yn y bore â'th gariad,inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15 Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni,gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16 Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision,a'th ogoniant i'w plant.