1 O ARGLWYDD, nid yw fy nghalon yn drahaus,na'm llygaid yn falch;nid wyf yn ymboeni am bethau rhy fawr,nac am bethau rhy ryfeddol i mi.
2 Ond yr wyf wedi tawelu a distewi fy enaid,fel plentyn ar fron ei fam;fel plentyn y mae fy enaid.
3 O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDDyn awr a hyd byth.