1 Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.
2 Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd,a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.
3 Nid oes iaith na geiriau ganddynt,ni chlywir eu llais;
4 eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaeara'u lleferydd hyd eithafoedd byd.Ynddynt gosododd babell i'r haul,
5 sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.
6 O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7 Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;
8 y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,yn llawenhau'r galon;y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,yn goleuo'r llygaid;
9 y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,yn para am byth;y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,yn gyfiawn bob un.
10 Mwy dymunol ydynt nag aur,na llawer o aur coeth,a melysach na mêl,ac na diferion diliau mêl.
11 Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi,ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
12 Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau?Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
13 Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar,rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf.Yna byddaf yn ddifeius,ac yn ddieuog o bechod mawr.
14 Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt,a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti,O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.