1 Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw;O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
2 Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imigael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
3 Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnafdroi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.
4 Ond bydded i bawb sy'n dy geisio dilawenhau a gorfoleddu ynot;bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaethddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.”