1 Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith,
2 daeth Jwda yn gysegr iddo,ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.
3 Edrychodd y môr a chilio,a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.
4 Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,a'r bryniau fel ŵyn.
5 Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?
6 Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,a chwithau'r bryniau, fel ŵyn?
7 Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd,ym mhresenoldeb Duw Jacob,