Y Salmau 27 BCND

I Ddafydd.

1 Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,rhag pwy yr ofnaf?Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,rhag pwy y dychrynaf?

2 Pan fydd rhai drwg yn cau amdanafi'm hysu i'r byw,hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,fydd yn baglu ac yn syrthio.

3 Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,nid ofnai fy nghalon;pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,eto, fe fyddwn yn hyderus.

4 Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,dyma'r wyf yn ei geisio:cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDDholl ddyddiau fy mywyd,i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDDac i ymofyn yn ei deml.

5 Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.

6 Ac yn awr, fe gyfyd fy mhengoruwch fy ngelynion o'm hamgylch;ac offrymaf finnau yn ei demlaberthau llawn gorfoledd;canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.

7 Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

8 Dywedodd fy nghalon amdanat,“Ceisia ei wyneb”;am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9 Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,na throi ymaith dy was mewn dicter,oherwydd buost yn gymorth i mi;paid â'm gwrthod na'm gadael,O Dduw, fy Ngwaredwr.

10 Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.

11 Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,arwain fi ar hyd llwybr union,oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

12 Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddogsy'n bygwth trais.

13 Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDDyn nhir y rhai byw.

14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD,bydd gryf a gwrol dy galona disgwyl wrth yr ARGLWYDD.