1 Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon;nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.
2 Llwydda i'w dwyllo ei hunna ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.
3 Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.
4 Cynllunia ddrygioni yn ei wely;y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,ac nid yw'n gwrthod y drwg.
5 Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;
6 y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchela'th farnau fel y dyfnder mawr;cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
7 Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.
8 Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,a diodi hwy o afon dy gysuron;
9 oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.
10 Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnaboda'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.
11 Na fydded i'r troed balch fy sathru,nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.
12 Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo,wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!