1 ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,
2 a llawer yn dweud amdanaf,“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”Sela
3 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.
4 Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.Sela
5 Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
6 Nid ofnwn pe bai myrddiwn o boblyn ymosod arnaf o bob tu.
7 Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw.Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb,ac yn torri dannedd y drygionus.
8 I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth;bydded dy fendith ar dy bobl.Sela