39 Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,a thân i oleuo iddynt yn y nos.
40 Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,a digonodd hwy â bara'r nefoedd.
41 Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.
42 Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaiddi Abraham ei was.
43 Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd,ei rai etholedig mewn gorfoledd.
44 Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd,a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd,