19 Gwnaethant lo yn Horeb,ac ymgrymu i'r ddelw,
20 gan newid yr un oedd yn ogoniant iddyntam ddelw o ych yn pori gwellt.
21 Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,
22 pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.
23 Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.
24 Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;
25 yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.