25 yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.
26 Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,
27 ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.
28 Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;
29 yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,a thorrodd pla allan yn eu mysg.
30 Ond cododd Phinees a'u barnu,ac ataliwyd y pla.
31 A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddodros y cenedlaethau am byth.