104 O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
105 Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.
106 Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.
107 Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.
108 Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.
109 Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110 Gosododd y drygionus rwyd i mi,ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.