111 Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
112 Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;y mae eu gwobr yn dragwyddol.
113 Yr wyf yn casáu rhai anwadal,ond yn caru dy gyfraith.
114 Ti yw fy lloches a'm tarian;yr wyf yn gobeithio yn dy air.
115 Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
116 Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
117 Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,imi barchu dy ddeddfau yn wastad.